Gwersi

Lawrlwythwch dros 80 o gynlluniau gwersi trawsgwricwlaidd ac adnoddau sy'n dod â chyfrifiadura yn fyw, gyda chyfrifiadur neu hebddo.

Adnoddau Athrawon

Ewch i’r afael â’r cwricwlwm cyfrifiadura, gyda help ein deunyddiau a’u hadnoddau hunanddysgu.

Gweithdai Ysgol

Gofynnwch am weithdy datblygiad proffesiynol parhaus i’ch ysgol heddiw a gadewch i’n gwirfoddolwyr hyfforddedig eich helpu i fynd â Barefoot i’r ystafell ddosbarth ar eich union.

Adnoddau Barefoot

Gweld yr holl Adnoddau

GWEITHGAREDD DADELFENNU BYRFYFYR

Oedran:
5-11 oed
Cysyniadau / Ymagweddau:
Dadelfennu
Cysylltiadau â'r Cwricwlwm:
AG

Gweithgaredd byrfyfyr lle mae disgyblion yn creu cyfresi o symudiadau. Mae'r disgyblion yn torri'r gyfres o weithredoedd yn rhannau a thrwy wneud hynny maent yn dadelfennu.

DEWIS CWIS MATHEMATEG YN SCRATCH

Oedran:
7-11 oed
Cysyniadau / Ymagweddau:
Dewis, Rhaglennu
Cysylltiadau â'r Cwricwlwm:
Mathemateg

Mae disgyblion yn creu cwis Mathemateg yn Scratch ac yn dysgu am ddewis sydd, yn y gweithgaredd yma, yn caniatáu addasu llif y rhaglen gan ddibynnu ar atebion y chwaraewr i gwestiynau. I ddechrau bydd y disgyblion yn defnyddio gorchymyn dewis ‘If… then…’ cyn symud ymlaen i ddefnyddio gorchymyn ‘If…then… else…’.

GWEITHGAREDD RHESYMEG MAP Y BYD

Oedran:
5-7 oed
Cysyniadau / Ymagweddau:
Rhaglennu, Ailwampio, Rhesymeg
Cysylltiadau â'r Cwricwlwm:
Daearyddiaeth

Mae disgyblion yn edrych ar gyfresi o orchmynion ac yn defnyddio rhesymu rhesymegol i ragfynegi beth maent yn ei wneud. Wedyn maent yn rhaglennu eu gorchmynion i weld a yw eu rhagfynegiadau’n gywir.

Pam Troi at Barefoot

Mae Barefoot yma i’ch helpu i gyflwyno’r cwricwlwm cyfrifiadura mewn modd arbennig gyda gweithdai wyneb yn wyneb am ddim, canllawiau defnyddiol ar-lein a gwersi atyniadol.

Llwythwch i lawr wersi ac adnoddau trawsgwricwlaidd sy’n sbarduno meddwl yn gyfrifiadurol ym mhob pwnc bron, gan arbed amser gwerthfawr i chi.

Rhowch hwb i’ch gwybodaeth a’ch hyder yn y pwnc drwy weithdy DPP wyneb yn wyneb am ddim i’ch cyflwyno i feddwl yn gyfrifiadurol a’ch rhoi chi ar ben ffordd. Wedi meistroli’r hanfodion? Trefnwch weithdy rhaglennu dan arweiniad athro gyda Llysgennad Barefoot.

Mae Barefoot yn gwneud cyfrifiadura yn hawdd i’w addysgu ac yn hwyl i’w ddysgu, boed hynny gyda chyfrifiadur neu hebddo. Edrychwch ar ein canllawiau clir ar-lein i gael rhagor o gymorth.